Cynnwys
2. Ystadegau chwarterol diweddaraf: trosolwg
Ceisiadau a ddaeth i law erbyn 30 Medi
Ceisiadau a gafodd benderfyniad
3. Deilliannau: 'sefydlog' neu 'cyn sefydlu'?
4. Dinasyddion ‘cyn sefydlu’: ail gais i aros
4.1. Trosi statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ yn statws ‘preswylydd sefydlog’
5. Pwy sydd wedi gwneud cais o Gymru?
8. Cyngor a chymorth am ddim gan Lywodraeth Cymru
9. Gweithgarwch y Pwyllgor: y wybodaeth ddiweddaraf
Grŵp Cydgysylltu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Cwasanaethau cyngor a chymorth am ddim
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yw cynllun Llywodraeth y DU y mae’n rhaid i ddinasyddion Ewrop wneud cais iddo er mwyn aros yn y DU ar ôl Brexit.
Mae hawliau dinasyddion yn ffurfio rhannau allweddol o gytundebau y daethpwyd iddynt rhwng y DU, yr UE a gwledydd Ewropeaidd eraill fel rhan o Brexit. Mae hawliau dinasyddion Ewrop yn y DU yn cael eu gwarantu gan gytundebau gyda’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir.
Rhaid i Lywodraeth Cymru gadw at y cytundebau hyn ac mae Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder CymdeithasolLlywodraeth Cymru yn gyfrifol am weithgareddau sy'n ymwneud â’r Cynllun yng Nghymru.
Caiff data ar y ceisiadau i'r Cynllun eu cofnodi gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddir ystadegau lefel uchel yn fisol a chyhoeddir ystadegau manwl, gan gynnwys data lefel Cymru, bob chwarter.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r canfyddiadau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, yn union ar ôl dyddiad cau ceisiadau’r Cynllun ar 30 Mehefin 2021.
Darperir adroddiadau chwarterol i'r Pwyllgor i lywio ei waith monitro ar y mater hwn.
Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, rhaid i ddinasyddion Ewrop a oedd yn byw yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020 fod wedi gwneud cais i aros erbyn 30 Mehefin 2021.
Mae hyn yn berthnasol i ddinasyddion Aelod-wladwriaethau'r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir ond nid dinasyddion Iwerddon, sydd wedi'u heithrio o dan drefniadau ar wahân. Nid yw nifer y dinasyddion o’r gwledydd hyn sy’n byw yn y DU yn hysbys, sy'n golygu nad oes neb yn gwybod faint o geisiadau ddylai fod.
Ers iddo gael ei lansio, mae dros 6.3 miliwn o geisiadau wedi cael eu cyflwyno i’r Cynllun ar gyfer Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn y DU. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn sefydlu'. Am gefndir, gweler erthygl flaenorol Ymchwil y Senedd ar y mater hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod chwarterol yn union ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin 2021 - rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021.
Bydd yr ystadegau chwarterol nesaf ar gael ym mis Chwefror 2022.
Ceisiadau a ddaeth i law erbyn 30 Medi
Hyd at 30 Medi, roedd 102,170 o geisiadau o Gymru o gymharu â’r 95,000 amcangyfrifedig o ddinasyddion cymwys yr oedd angen iddynt wneud cais. Daeth 17,660 o geisiadau i law ar gyfer rhai dan 18 oed.
Ceisiadau a gafodd benderfyniad
Cafodd 96,620 o geisiadau benderfyniad a chyfeirir atynt fel 'ceisiadau wedi'u cwblhau'.
Mae’r Cynllun yn parhau ar agor i dderbyn ceisiadau hwyr, a ganiateir os oes gan unigolyn sail resymol dros fethu’r dyddiad cau. Mae enghreifftiau’n cynnwys pan fo rhiant wedi methu â gwneud cais ar ran plentyn neu pan fo gan unigolyn gyflwr meddygol difrifol.
Daeth 2,340 o geisiadau hwyr o Gymru i law rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn sefydlu', a drafodir yn fanylach isod.
Ers i'r Cynllun agor, mae 57.2 y cant o ymgeiswyr wedi cael statws ‘preswylydd sefydlog’ hyd at 30 Medi ac mae 37.5 y cant wedi cael statws ‘preswylydd cyn sefydlu’.
Mae ffeithlun Ymchwil y Senedd isod yn dangos canran a nifer y ceisiadau o Gymru. Mae'n dangos a ddaethant i law cyn/ar ôl y dyddiad cau, a gawsant benderfyniad ai peidio a chanlyniad ceisiadau gan ddinasyddion Ewrop yng Nghymru hyd yma.
Ceisiadau i’r Cynllun o Gymru yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau yn ôl canran a nifer:
Hyd at 30 Medi, cafodd 57.2 y cant o'r ceisiadau a gwblhawyd o Gymru (55,220 o geisiadau) statws ‘preswylydd sefydlog’. I gael statws ‘preswylydd sefydlog’, rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn y DU am bum mlynedd heb absenoldeb o fwy na chwe mis, gyda rhai eithriadau. Mae dinasyddion sy’n cael statws sefydlog yn colli eu statws os ydynt yn treulio mwy na phum mlynedd yn olynol y tu allan i'r DU.
Cafodd 37.5 y cant o'r ceisiadau a gwblhawyd o Gymru (36,200 o geisiadau) statws ‘preswylydd cyn sefydlu’. Rhoddir statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ i ddinasyddion Ewrop sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020. Mae dinasyddion sy’n cael statws ‘cyn sefydlu’ yn colli eu statws os ydynt yn treulio mwy na dwy flynedd yn olynol y tu allan i'r DU.
Gall dinasyddion sy’n ‘breswylwyr sefydlog’ a’r rheini sy’n ‘breswylwyr cyn sefydlu’ fel ei gilydd weithio yn y DU, a gallant gael gafael ar ofal iechyd, addysg ac arian cyhoeddus. At hynny, gallant deithio i mewn ac allan o'r DU a gwneud cais am ddinasyddiaeth. Fodd bynnag, ni all dinasyddion ‘cyn sefydlu’ ddod ag aelodau o'r teulu i ymuno â hwy.
Adroddir ar geisiadau aflwyddiannus hefyd. O Gymru, cafodd 2.2 y cant eu gwrthod (2,110 o geisiadau a gwblhawyd), cafodd 1.6 y cant eu tynnu yn ôl neu roeddent yn amhendant (1,530 o geisiadau a gwblhawyd), ac roedd 1.6 y cant yn annilys (1,560 o geisiadau a gwblhawyd).
Daw statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei drosi i statws ‘preswylydd sefydlog’ drwy wneud ail gais.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r 36,200 o ddinasyddion a gafodd statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ ac sydd am aros yng Nghymru y tu hwnt i'r terfyn amser wneud cais eto.
Mae methu ag ailymgeisio yn arwain at golli hawl person i weithio, cael mynediad at dai, addysg a budd-daliadau yn awtomatig, a gallent fod yn agored i gael eu symud o’r DU.
Cred y corff sy’n gyfrifol am fonitro hawliau dinasyddion Ewrop yn y DU, yr Awdurdod Monitro Annibynnol, fod y golled awtomatig hon o hawliau yn anghyfreithlon oherwydd ei fod yn torri cytundebau’r DU gyda’r UE a gwledydd eraill Ewrop. Mae’r Awdurdod Monitro Annibynnol wedi cychwyn achos adolygiad barnwrol yn erbyn Llywodraeth y DU i herio hyn.
Mae'r map isod yn dangos nifer y dinasyddion â statws ‘cyn sefydlu’ ym mhob ardal awdurdod lleol:
4.1. Trosi statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ yn statws ‘preswylydd sefydlog’
Mae nifer y rhai sy'n gwneud cais i drosi eu statws o statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ i statws ‘preswylydd sefydlog’ wedi'i nodi mewn ystadegau ar geisiadau ailadroddus.
Mae Llywodraeth y DU yn nodi bod y mwyafrif o geisiadau ailadroddus yn geisiadau i drosi statws. Fodd bynnag, ni ddarperir yr union nifer ac ni ddarperir gwybodaeth fesul gwlad y DU. Yn gyfan gwbl roedd 45,700 o geisiadau ailadroddus o bob rhan o'r DU.
Mae hyn yn golygu nad ydym yn gwybod faint o geisiadau sydd wedi dod i law gan ddinasyddion ‘cyn sefydlu’ yng Nghymru sy’n ceisio trosi eu statws.
Mae'r ystadegau'n cynnig cipolwg o bwy sydd wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae edrych ar y ceisiadau yn ôl oedran yn dangos, o’r 102,170 o geisiadau o Gymru:
- Daeth 81,310 o geisiadau gan bobl 18-64 oed (cwblhawyd 78,090 ohonynt);
- Ar gyfer y rhai dan 18 oed, roedd 17,660 o geisiadau (cwblhawyd 15,550 ohonynt); ac
- Roedd 3,190 o geisiadau gan bobl 65+ oed (cwblhawyd 2,980 ohonynt).
Dangosir nifer y ceisiadau a oedd wedi cael penderfyniad erbyn y dyddiad cau ('ceisiadau a gwblhawyd') mewn cromfachau.
Mae edrych ar y ceisiadau yn ôl cenedligrwydd yn dangos bod gwladolion Gwlad Pwyl a Rwmania yn gyson ymhlith yr uchaf o ran nifer y ceisiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ar gyfer Cymru:
- Cafwyd 30,960 o geisiadau gan ddinasyddion Gwlad Pwyl; a
- Chafwyd 15,420 o geisiadau gan wladolion Rwmania.
Roedd ceisiadau yn parhau i ddod i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac adroddir ar y rhain am y tro cyntaf.
Daeth 2,340 o geisiadau i law o Gymru rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi. Ym mis Gorffennaf, daeth 850 o geisiadau hwyr i law o Gymru, gyda 670 ym mis Awst ac 820 ym mis Medi.
Mae’r rhain yn nodi’r nifer misol isaf o geisiadau a ddaeth i law ers i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE agor ym mis Mawrth 2019, fel y dangosir isod:
Mae Llywodraeth y DU yn cynghori y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd â sail resymol am golli'r dyddiad cau, er enghraifft rhiant sydd wedi methu â gwneud cais ar ran plentyn neu rywun sydd â chyflwr meddygol difrifol.
Mae pryderon wedi’u mynegi bod y rhai a fethodd y dyddiad cau yn dod yn awtomatig i breswylio’n anghyfreithlon yn y DU ar 1 Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi addo diogelu hawliau'r rhai sydd â sail resymol dros fethu'r dyddiad cau.
Os nad yw unigolyn wedi gwneud cais i’r Cynllun a’i fod yn dod i gysylltiad ag awdurdodau’r DU, bydd yn cael 28 diwrnod o rybudd i wneud cais.
Dywed Llywodraeth y DU na fydd pobl nad ydynt wedi gwneud cais ar ôl y cyfnod rhybudd o 28 diwrnod yn gymwys i gael gwaith, budd-daliadau na gwasanaethau ac ni fyddant yn pasio gwiriadau tenantiaeth.
Efallai y byddant yn atebol am gamau gorfodi, er bod Llywodraeth y DU yn pwysleisio na fydd alltudio yn digwydd yn awtomatig.
Mae cyflogwyr a landlordiaid hefyd angen hysbysu’r Swyddfa Gartref o bobl nad ydynt wedi gwneud cais.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwasanaethau cymorth a chyngor am ddim ar gyfer dinasyddion Ewrop a oedd am barhau i fyw yng Nghymru ar ôl Brexit.
Roedd disgwyl y byddai’r gwasanaethau yn dod i ben ddiwedd 2021, fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref y byddent yn cael eu hymestyn tan o leiaf fis Mawrth 2022.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried ei adroddiad monitro cyntaf ym mis Hydref, cytunodd yr Aelodau i:
§ gyhoeddi adroddiadau monitro rheolaidd ar hawliau dinasyddion Ewrop yng Nghymru, sydd ar gael ar wefan y Senedd;
§ rhannu ei adroddiadau gyda'r Awdurdod Monitro Annibynnol; a
§ gofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru, yn enwedig o ran sut y bydd, yn y dyfodol, yn cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud cais hwyr a dinasyddion sydd â statws ‘preswylydd cyn sefydlu’.
Mewn ymateb, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi darparu rhagor o fanylion am weithgareddau Llywodraeth Cymru, fel a ganlyn:
Grŵp Cydgysylltu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Cadarnhaodd y Gweinidog fod ei Grŵp Cydgysylltu, a gadeirir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys sawl partner allanol sy’n cefnogi dinasyddion i wneud cais i’r Cynllun.
Mae’r partneriaid allanol canlynol yn mynychu:
Newfields Law, Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Migrant Help, Mind Casnewydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, TGP Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Settled, TUC Cymru, y Gymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar a’r Prosiect Cyfraith Gyhoeddus.
Mae’r Grŵp yn cyfarfod bob deufis, lle mae rhanddeiliaid yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y maent wedi’i wneud hyd yma a’r gwaith y maent wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 22 Ionawr 2022. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n cynnig rhannu cofnodion cyfarfodydd y dyfodol gyda'r Pwyllgor. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n hysbysu'r Pwyllgor o'r canlyniad ar ôl y cyfarfod.
Disgrifiodd y Gweinidog weithgareddau codi ymwybyddiaeth diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu wedi'i dargedu mewn lleoliadau gofal iechyd, megis canolfannau brechu a phractisau cyffredinol lleol mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd.
Mae ymgyrch ddigidol wedi’i chynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, i ganolbwyntio ar negeseuon ynghylch:
- ceisiadau hwyr;
- ceisiadau ar gyfer plant ac aelodau eraill o'r teulu sy'n derbyn gofal;
- ceisiadau i ymuno ag aelodau o'r teulu ac;
- annog dinasyddion yr UE i ddiweddaru eu statws digidol ar-lein.
Cadarnhaodd y Gweinidog ei bod wedi ysgrifennu at gyd-Aelodau yn y Cabinet yn gofyn am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer y gwaith hwn.
Cwasanaethau cyngor a chymorth am ddim
Eglurodd y Gweinidog sut y bydd yn gwneud defnydd o’i gwasanaethau cymorth a chyngor am ddim a gafodd eu hymestyn yn ddiweddar .
Roedd llythyr y Gweinidog hefyd yn amlinellu’r mathau o gymorth a ddarperir gan bartneriaid allanol Llywod